Mae Canolfan Peniarth wedi lansio cyfres lyfrau stori newydd i blant, sydd wedi eu hawduro gan awduron profiadol gan gynnwys yr awdur Manon Steffan Ros, un sydd wedi ennill nifer o wobrwyau am ei gwaith.

Nod y gyfres Cymeriadau Difyr, Stryd y Rhifau, yw i gyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd i blant yn y Cyfnod Sylfaen, ac mae pob llyfr yn cyflwyno rhifolyn newydd, fel cymeriad, megis Sara Sero, Alun Un, Deio Dau, a Twm Tri.  Cafodd y gyfres ei lansio yng nghwmni Manon Steffan Ros, yn Ysgol Gynradd Penybryn, Tywyn, ar 23 Mawrth, lle cafwyd te parti wrth gyflwyno’r cymeriadau lliwgar i blant yr Ysgol. 

Awdur arall ar lyfrau’r gyfres yw Catrin Evans-Thomas, sy’n ddarlithydd yng Nghanolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol.  Catrin fu hefyd yn rheoli’r gwaith yn y broses ddatblygu, ar ran Canolfan Peniarth.  Dywedodd Catrin, “Mae hi’n wych i weld y llyfrau bellach wedi eu cyhoeddi, ac ryn ni’n ddiolchgar iawn i Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru, am gomisiynu’r gyfres i ni.  Mae hi hefyd wedi bod yn brofiad gwych i gydweithio gyda dylunydd fel Elena D’Cruze Reynolds, sydd wedi llwyddo i ddod â straeon Manon a’r cymeriadau’n fyw, a gwneud rhifedd yn apelgar i  ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen”.

Dyma’r ail waith i Ganolfan Peniarth gydweithio gyda Manon Steffan Ros ar gyhoeddiad, yn dilyn cyhoeddi’r ddrama boblogaidd Dau Wyneb, nol yn 2016, a’r addasiad Saesneg, Two Faces, sydd bellach wedi eu cynnwys fel dramau testun ar faes llafur newydd Drama TGAU gyda CBAC.  Dywedodd Gwydion Wynne, Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, “Mae Manon yn awdur wrth reddf, sy’n gallu cyflwyno straeon a chymeriadau yn y ffordd mwyaf creadigol.  Roedd hi’n fraint i ni fel Canolfan i allu cydweithio â hi unwaith yn rhagor, yn ogystal â Kiri Thomas a Catrin Evans-Thomas, sy’n brofiadol iawn ym maes cyhoeddi adnoddau addysg.  Gyda nifer o lyfrau’r gyfres eisoes wedi eu gwerthu ar draws Cymru, rydym yn edrych ymlaen i weld ymateb plant i’r cymeriadau difyr”.

Mae llyfrau'r gyfres ar gael i'w prynnu'n unigol am £2.99 yr un, neu fel cyfres am £50, o siop ar-lein y Ganolfan.